Newidiadau i ofal cleifion Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
- Published
Mae trafferthion i ddenu meddygon yn golygu y bydd yna newidiadau i rai o wasanaethau Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg fod rhaid cyflwyno newidiadau er mwyn parhau i ddarparu gwasanaeth diogel i gleifion.
Bydd rheolwyr yr ysbyty yn cyfarfod yr wythnos nesa' i drafod y sefyllfa.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n gweithredu nifer o gynlluniau i geisio ymateb i broblem denu staff meddygol.
Dywedodd yr AC Plaid Cymru, Bethan Jenkins, bod y cyhoeddiad yn un "hynod bryderus" a bod yr ysbyty yn "cynllunio ar gyfer toriadau sylweddol".
Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud nad oes 'na gynlluniau i gau'r ysbyty.
Fe fydd unrhyw newidiadau yn cael effaith ar ofal cleifion o fis Medi ymlaen.
Mewn datganiad dywedodd y bwrdd eu bod wedi gobeithio peidio gwneud unrhyw newidiadau tan y flwyddyn nesaf, ond bod trafferthion i ddenu meddygon wedi golygu cyflwyno newidiadau yn gynt.
'Esgusodion'
"Fe fydd yr ysbyty yn parhau i chwarae rhan allweddol i gynnig gwasanaethau clinigol o fewn y bwrdd iechyd.
"Fydd yr ysbyty ddim yn cau," ychwanegodd y llefarydd.
Fe wnaeth Ms Jenkins fanylu gan ddweud bod arwyddion o drafferthion wedi bod a bod Llywodraeth Llafur Cymru wedi "anwybyddu" hyn.
"Ddylai pobl yr ardal yma ddim diodde' oherwydd yr anallu sydd wedi arwain y bwrdd i wneud y penderfyniad yma."
Dywedodd Peter Hain, Aelod Seneddol Llafur Castell-nedd, ei fod wedi ei frawychu gan y newyddion.
"Yr esgus sy'n cael ei roi yw denu meddygon mewn swyddi arbenigol.
"Ond gyda thoriadau ar draws Lloegr a llefydd eraill o fewn y gwasanaeth iechyd o ganlyniad i dorri gwariant gan y llywodraeth, dwi'n synnu nad oes meddygon ar gael.
"Yn y gorffennol, mae ysbytai Cymru wedi denu meddygon o dramor.
"Dwi ddim yn gallu credu na all y bwrdd iechyd ganfod meddygon mewn cyfnod o ddirwasgiad byd eang.
"Dwi'n credu bod yr esgus yn cael ei ddefnyddio i leihau'r gwasanaethau ac felly bradychu'r addewidion wnaed pan gytunwyd i fwrw ymlaen gyda'r ysbyty o dan gynllun PFI."
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y gwasanaeth iechyd drwy Gymru yn wynebu sialensiau.
"Mae hyfforddi a denu staff meddygol yn broblem i Brydain gyfan.
"Drwy raglen ymgyrchu Gweithio i Gymru rydym yn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd a'r budd o weithio i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Published
- 25 Ionawr 2003
- Published
- 30 Tachwedd 2002
- Published
- 22 Rhagfyr 2003