Rhybudd Pennaeth Llywodraeth Leol am newid budd-dal treth cyngor
- Cyhoeddwyd

Mae pennaeth wedi rhybuddio y gall y newidiadau i'r system fudd-daliadau newydd, ddaw i rym yn 2013, fod "yn drychinebus".
Rhybuddiodd Steve Thomas, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y byddai gweinidogion San Steffan yn datganoli budd-daliadau treth Cyngor i Gymru "ar fyrder".
Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi cwyno mai naw mis yn unig sydd ganddyn nhw i gyflwyno ffordd newydd o ddosbarthu'r budd-daliadau, sy'n cael eu derbyn gan chwarter o gartrefi Cymru.
Mae'n bosib na fydd y llywodraeth yn cael y wybodaeth angenrheidiol o San Steffan tan fis Tachwedd.
Ac mae Llywodraeth San Steffan yn datganoli cyfrifoldeb am fudd-daliadau i Fae Caerdydd o dan newidiadau i'r system les a dywed Ysgrifennydd Cymru bod Llywodraeth Cymru yn cael y wybodaeth angenrheidiol.
Aros am atebion
Hefyd mae'r glymblaid yn San Steffan wedi cwtogi'r gyllideb sy'n helpu'r pobl i dalu'r dreth cyngor 10%.
Dywedodd fod "lleoli" y system yn rhoi rhyddid i Lywodraeth Cymru benderfynu ar y ffordd orau i gynorthwyo pobl.
Ond mae Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru, Carl Sargeant wedi dweud wrth ACau yr wythnos yma bod 'na gwestiynau yn dal heb eu hateb gan weinidogion San Steffan.
"Er gwaetha' cyfarfod gyda'r Arglwydd Freud ac Iain Duncan Smith yr wythnos diwethaf, dydan ni dal ddim yn gwybod faint fydd y cyllid craidd ar gyfer y cynllun," meddai.
"A fydd o'n 10% o ostyngiad neu a fydd 'na ostyngiad pellach?
"Wyddon ni ddim chwaith faint o fwrn gweinyddol ar Gymru fydd hyn.
"Mae'n bosib na fyddwn ni'n gwybod tan yr hydref."
Mae Mr Thomas wedi dweud wrth raglen Sunday Politics y BBC bod cynghorau Cymru "yn bryderus iawn" am fudd-dal treth cyngor.
"Mae'n cael ei ddatganoli ar fyrder ac mae'n dod ag ergyd sylweddol, o ran toriad sylweddol o £24 miliwn-£30 miliwn.
"Mae'r amserlen yn dynn iawn ond i wynebu toriad o'r maint yna hefyd, mae wir yn codi pryderon."
Mwy o gyfrifoldeb
Dywedodd bod tua 327,000 o deuluoedd Cymru yn hawlio'r budd-dal.
"Mae'r newidiadau fydd angen yn anferthol," ychwanegodd.
"Dyw e ddim yn teimlo fel cyfrifoldeb ond yn hytrach yn rhwymedigaeth sydd wedi ei drosglwyddo i ni."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, bod mwy o gyfrifoldebau yn cael ei roi i lywodraeth leol.
"Dwi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol o'r newidiadau ar hyd y ffordd.
"Mae'r holl newidiadau sy'n cael eu gwneud, o'n safbwynt ni fel llywodraeth glymblaid, er mwyn targedu a sicrhau bod y rhai sydd wir angen y budd-daliadau yn eu derbyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012