Ailagor 'Cadeirlan' Anghydffurfiaeth yn Nhreforys
- Published
Cafodd un o gapeli mwya' ac enwoca' Cymru ei ailagor yn swyddogol ddydd Sul.
Mae £350,000 wedi cael ei wario ar adnewyddu Capel Tabernacl yn Nhreforys.
Roedd cyngerdd arbennig brynhawn Sul lle oedd pob côr sy'n gysylltiedig â'r capel, Côr Orffiws Treforys, Côr Clwb Rygbi Treforys, Côr Merched Treforys, Côr Y Tabernacl a Chôr Twrw Tawe, yn canu.
Y Dr Rees Morgan oedd yn annerch a'r Parchedig Derwyn Morris Jones yn pregethu.
Mae'r adnewyddu wedi cynnwys trwsio'r tŵr.
Cafodd y capel, "Cadeirlan Anghydffurfiaeth," ei agor yn 1872.
Yn ddiweddar, cafodd £100,000 oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad drwy Cadw, corff henebion y llywodraeth, ar gyfer y gwaith atgyweirio.
Mae tua 145 o aelodau yn y capel gyda chynulleidfa wythnosol o hyd at 70.
Felly roedd codi cymaint o arian yn dipyn o faich ond llwyddwyd i werthu asedau.
Yn y capel, lle mae lle ar gyfer 1,200, mae cyngherddau mawr yn cael eu cynnal.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Awst 2010
- Published
- 23 Gorffennaf 2010
- Published
- 7 Ebrill 2010
- Published
- 5 Mawrth 2010