Bwrw mlaen â chanolfan siopau newydd Pontypridd wedi oedi
- Cyhoeddwyd

Mae'r datblygwyr sy'n gyfrifol am ganolfan siopau newydd ym Mhontypridd wedi dweud wrth BBC Cymru y bydd yn mynd yn ei flaen.
Mae 'na oedi wedi bod i ganolfan Taff Vale oherwydd problemau cyllid.
Roedd disgwyl i'r ganolfan fod yn agor dros yr haf.
Ers i'r hen ganolfan siopa a swyddfa trethi gael eu dymchwel, mae'r safle wedi ei amgylchynu gan wal bren.
Mae'r datblygwyr, Taff Vale Limeted, yn ystyried cynnig newydd o fuddsoddiad.
Adfywio'r dref
Mae gobaith o greu nifer o unedau siopa, bar a bwyty ar y safle lle'r oedd canolfan siopau o'r 1960au.
Mae'r cynllun preifat yma yn rhan o gynllun ehangach i adfywio canol tref Pontypridd.
Dywedodd Siân John, sy'n rhedeg Pepworth's Delicatessen, ei bod wedi gorfod symud o'i siop yn y dref i'r farchnad dan do oherwydd gostyngiad sylweddol yn nifer y siopwyr.
"Oherwydd y gwaith ffordd yng nghanol y dref roedd llai a llai yn dod i siopa' yma," meddai wrth raglen BBC Radio Wales Eye On Wales.
"Roedd y gwaith wnaeth bara am 18 mis achosi lot o broblemau i fusnesau.
"Un o'r prif ffactorau oedd y trethi, oedd tua £18,000 y flwyddyn.
"Bu'n rhaid i ni symud i'r farchnad er mwyn gwneud arbedion."
Dywedodd y datblygwyr eu bod wedi cael trafferthion gael cymorth llawn ar gyfer y cynllun.
Cafwyd cynnig gan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio ond doedd o ddim yn ddigon.
Mae 'na gynnig newydd wedi dod i law ac mae'r datblygwyr yn ystyried hwnnw yn y gobaith o allu symud ymlaen a chwblhau'r datblygiad.
Mae nifer o gwmnïau cenedlaethol wedi eu cysylltu gyda'r datblygiad newydd gan gynnwys Iceland, Wilkinson's a Poundland.
Mwy ar y stori ar Eye on Wales BBC Radio Wales ddydd Sul am 1.04pm.
Straeon perthnasol
- 14 Gorffennaf 2011
- 17 Mehefin 2011
- 2 Mehefin 2009