BBC Cymru Fyw

Yr heddlu yn cyhuddo dyn 22 oed o lofruddiaeth ym Maesteg

Published
image copyrightWales News Service
image captionRoedd Thomas Sutton yn 20 oed
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 22 oed o lofruddio dyn 20 oed ym Maesteg.
Cafodd y dyn ei arestio ddydd Iau ar gyhuddiad o lofruddio Thomas Sutton nos Fawrth.
Mae'r dyn hefyd wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio Kyle Harris.
Cafodd o a Mr Sutton eu trywanu yn y digwyddiad.
Fe fydd y dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen ynadon Pen-y-Bont ar Ogwr ddydd Llun.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Steve Benson-Davison, sy'n arwain yr ymchwiliad, eu bod yn dal i apelio ar unrhyw un yn y gymuned, sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ar Heol Tonna, yn ardal Nantyffyllon nos Fawrth i gysylltu gyda nhw.
"Rydym yn hynod o awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad neu unrhyw un oedd ar Heol Tonna ddydd Mawrth Mehefin 26 rhwng 7pm a 9pm.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned ym Maesteg ac i'r cyfryngau am eu cefnogaeth yn yr ymchwiliad hyd yma.
"Mae'r wybodaeth wedi bod yn amhrisiadwy."
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio ystafell ymchwilio'r heddlu ar 01656 306 099 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.