Methiant y Cymro Christian Malcolm yn y ras gyfnewid
- Cyhoeddwyd

Roedd 'na siom i dîm gyfnewid Prydain wrth i'r pedwar fethu cwblhau'r rownd derfynol 4x100m ym mhencampwriaethau Ewrop yn Helsinki.
Methodd y Cymro Christian Malcolm a throsglwyddo'r baton i Dwain Chambers o fewn yr ardal benodol.
Y ddau arall yn y tîm yw James Ellington a Mark Lewis-Francis.
Daw'r ras ddiwrnod ar ôl i ferched Prydain 4z100m gael eu diarddel pan ddyfarnwyd bod Hayley Jones wedi camu allan o'i lôn.
Yr Iseldiroedd enillodd y ras i ddynion.
"Dwi'n cymryd y cyfrifoldeb," meddai Malcolm.
"Fe golles i fomentwm. Fy ngwaith i ydi sicrhau bod y baton yn cyrraedd Dwain a wnes i fethu.
"Roedd yn gyfle i ni gyd ac fe fethon ni.
"Roeddem yn meddwl y byddem yn ennill. Roeddem yn barod.
"Dyw e ddim yn fater o ddiffyg ymarfer."
Mae Malcolm wedi ennill lle yn ras y 200m yn y Gemau Olympaidd eisoes a hynny am y pedwerydd tro.