Llofruddiaeth: Dyn yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Thomas SuttonFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Thomas Sutton yn 20 oed

Mae dyn 22 oed wedi ymddangos gerbron ynadon ar gyhuddiad o gyhuddo o lofruddio dyn yn ardal Maesteg nos Fawrth diwethaf.

Mae Stuart Lee Worvell yn wynebu cyhuddiad o lofruddio Thomas John Sutton, 20 oed, ac o geisio llofruddio Kyle Harris, 17 oed.

Mewn gwrandawiad a borodd tua dau funud ym Mhen-y-bont ar Ogwr fe wnaeth Worvell ond siarad i gadarnhau ei enw.

Ni wnaed cais am fechnïaeth.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Steve Benson-Davison, sy'n arwain yr ymchwiliad, eu bod yn dal i apelio ar unrhyw un yn y gymuned, sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ar Heol Tonna, yn ardal Nantyffyllon nos Fawrth i gysylltu gyda nhw.

"Rydym yn hynod o awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad neu unrhyw un oedd ar Heol Tonna ddydd Mawrth Mehefin 26 rhwng 7pm a 9pm," meddai.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned ym Maesteg ac i'r cyfryngau am eu cefnogaeth yn yr ymchwiliad hyd yma.

"Mae'r wybodaeth wedi bod yn amhrisiadwy."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio ystafell ymchwilio'r heddlu ar 01656 306 099 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol