Cymeradwyo cynllun achub ar gyfer Coleg Llanymddyfri
- Cyhoeddwyd

Mae rhieni disgyblion yng Ngholeg Llanymddyfri wedi cymeradwyo cynlluniau i geisio mynd i'r afael â gwerth dros £2 filiwn o ddyledion.
Nos Sul roedd dros 100 o rieni mewn cyfarfod i glywed manylion cynllun i greu cwmni newydd i fod yn gyfrifol am yr ysgol.
Yn ôl warden y coleg, Guy Ayling, y flaenoriaeth yw dod i'r afael â'r broblem o dalu cyflogau 100 aelod staff y coleg.
Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran undeb yr NASUWT fod y cant o athrawon yno yn dal i weithio yn ddi-dâl ac y byddan nhw'n cynnal cyfarfod ddydd Iau i drafod y sefyllfa.
'Sefyllfa anodd'
Yn dilyn y cyfarfod nos Sul, dywedodd Mr Ayling wrth BBC Cymru: "Rydym wedi derbyn gymaint o gefnogaeth gan y rhieni mae 'na bosibilrwydd cryf y byddant yn buddsoddi yn y coleg.
"Rydym mewn sefyllfa anodd oherwydd nad yw aelod o'r staff wedi eu talu.
"Bydd y cwmni newydd yn ceisio mynd i'r afael â'r broblem honno cyn bo hir cyn i'r cwmni newydd baratoi ar gyfer mis Medi."
Dywedodd un o'r rhieni, Michael Morgan o Rydaman, fod problemau'r ysgol yn deillio o'r sefyllfa economaidd bresennol.
Ychwanegodd fod y cynllun achub yn "gyfle euraidd i'r ysgol ac i'r economi leol".
Gobaith y coleg yn Sir Gaerfyrddin yw ad-drefnu'r ysgol gyda chefnogaeth newydd er mwyn dileu'r ddyled.
Mae 'na tua 100 o staff yn y coleg ar gyfer 300 o ddisgyblion ac mae tua 40 o'r staff yn aelod o undeb ATL.
Trefniant banc
Mae Coleg Llanymddyfri yn gwmni preifat ac yn elusen gofrestredig sy'n cael ei redeg o dan arweiniad ymddiriedolwyr.
Cafodd ei sefydlu yn 1847.
Ymhlith cyn-ddisgyblion nodedig y mae Archesgobion Cymru a chwaraewyr rygbi fel Carwyn James a George North.
Pan gafodd y cyfrifon diweddaraf eu danfon y llynedd, cafodd ymddiriedolwyr yr ysgol rybudd fod trefniant banc yr ysgol yn debygol o fynd yn fwy na'r £1.55m dros y 12 mis nesaf, a'u bod yn gofyn am adnoddau pellach o hyd at £1.7m.
Dywedodd Mr Ayling, a gymrodd drosodd fel warden y coleg dri mis yn ôl, bod y ddyled wedi bod yn cynyddu'n raddol dros 10-15 mlynedd.
Er 2007 mae'r coleg wedi wynebu gostyngiad o 9% yn nifer y disgyblion.
Straeon perthnasol
- 1 Gorffennaf 2012
- 29 Mehefin 2012