Dathliadau Olympaidd yn dechrau yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ifanc yng Nghaernarfon wedi dechrau mis o ddathliadau celfyddydol yng nghastell y dref fel rhan o'r Olympiad Diwylliannol.

Nod y digwyddiad Cipio'r Castell oedd dangos beth yw ystyr y castell iddyn nhw, ac fe ddaeth cannoedd i orymdeithio o'r Maes i'r castell ei hun.

Mae'n un o gyfres o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal cyn dechrau'r Gemau Olympaidd ei hunain ddiwedd y mis.

Bydd ymwelwyr i'r castell yn cael gweld nifer o ddarnau o gelf sydd wedi eu gosod o gampas y safle dros y mis nesaf.

Mae pobl ifanc y dref wedi bod yn gweithio gydag artistiaid lleol i ddatblygu darnau o gelf, sy'n cynnwys arddangosfa o graffiti, ffilmiau animeiddiedig, gosodiadau sain a chaleidosgop.

Treftadaeth

Mae Cipio'r Castell yn un o wyth digwyddiad sy'n dathlu hanes Cymru mewn cyfres o safleoedd megis cestyll a safleoedd diwydiannol cyn y Gemau.

Bydd tua 17,000 o bobl ifanc ac artistiaid yn rhan o berfformiadau fel rhan o'r Olympiad Diwylliannol ar safle Cadw - gwasanaeth hen adeiladau Llywodraeth Cymru - tan Orffennaf 17.

Dywedodd Gwawr Wyn Roberts, swyddog datblygu celfyddydau cymunedol Cyngor Gwynedd: "Mae hwn yn gynllun cymunedol sy'n cynnwys pobl ifanc o Fôn ac Arfon mewn rhaglen liwgar o weithgaredd celfyddydol.

"Mae nifer o grwpiau gwahanol gan gynnwys y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid, ysgolion lleol a sefydliadau cymunedol wedi bod yn gweithio dan oruchwyliaeth artistiaid proffesiynnol er mwyn darparu'r dathliad cyffrous a dyfeisgar yma o'n treftadaeth."