Codi corff o Afon Wysg
- Published
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff yn Afon Wysg.
Cafwyd hyd i'r corff yn yr afon ger pentref Sgethrog tua saith milltir i'r de o Aberhonddu.
Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn chwilio'r afon ac ardaloedd cyfagos yng nghyffiniau Aberhonddu wedi i ddyn lleol fynd ar goll ar Fehefin 24.
Y dyn yw Steven Moore, 54 oed.
Nid yw'r heddlu wedi adnabod y corff yn swyddogol ond mae teulu Mr Moore wedi cael gwybod am y darganfyddiad.
Mae crwner Powys wedi ei hysbysu.
Straeon perthnasol
- Published
- 24 Mehefin 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol