Gwybodaeth am Brifwyl Bro Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Pryd?
Awst 4-11 2012
Ble?
Hen faes awyr Llandŵ ger Y Bont-faen a Llanilltud Fawr.
Teithio i'r Maes
Mae'n bwysig fod pawb sy'n ymweld â'r Eisteddfod yn dilyn arwyddion melyn swyddogol yr Eisteddfod a pheidio dilyn cyfarwyddiadau 'sat nav'. Mae meysydd parcio wedi'u neilltuo'n arbennig i bobl sy'n cyrraedd o gyfeiriad penodol - Maes Parcio'r Gorllewin a Maes Parcio'r Dwyrain. Gweler fap o ardal yr Eisteddfod yma.
Gigs a chyngherddau nos
Cynhelir cyngherddau yn y Pafiliwn pinc ar Faes yr Eisteddfod bob nos. Am fanylion llawn cyngherddau 2012 ac i archebu tocynnau, ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gallwch gael manylion pellach ar sut i gyrraedd y Maes, lein-yp Maes B a Maes C a gwybodaeth am y cyngherddau nos hefyd ar y wefan.
Gigs Cymdeithas yr Iaith
Clwb Rygbi Llanilltud Fawr yw lleoliad y gigs eleni. Ceir mwy o wybodaeth ar flog C2 a gwefan Cymdeithas yr Iaith.
Bysiau gwennol
Bydd bysiau gwennol yn rhedeg yn rheolaidd pob hanner awr rhwng y Maes, yr orsaf drenau yn Llanilltud Fawr a'r Bont-faen gan gynnwys y nosweithiau y cynhelir cyngherddau nos. Mwy o wybodaeth ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gwybodaeth ar gyfer ymwelwyr anabl
I arbed ansicrwydd ar y dydd, mae trefnwyr yr Eisteddfod yn awgrymu eich bod yn cysylltu â Swyddfa'r Eisteddfod am wybodaeth gyffredinol o flaen llaw ar 0845 4 090 400 a cheir gwybodaeth ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.