Apêl wedi ymosodiad rhyw

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiad o ymosodiad rhyw a ddigwyddodd am tua 6:15pm ddydd Iau, Mehefin 28 yng Nghwmbrân.

Aeth dyn at fenyw 22 oed ar South Walk yng nghanol y dref, ymosod arni cyn rhedeg i ffwrdd i gyfeiriad yr orsaf bysiau.

Ni chafodd y fenyw anaf.

Fe gafodd dyn 21 oed ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad rhyw, ac mae bellach wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu wrth i'r ymchwiliad barhau.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, neu a welodd unrhyw beth amheus i ffonio'r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.