BBC Cymru Fyw

Trefn gemau Wrecsam a Chasnewydd

Published
image copyrightbbc
Bydd gan glwb pêl-droed Casnewydd gêm anodd i ddechrau'r tymor newydd yn Uwchgynghrair Blue Square Bet.
Fe fydd tîm Justin Edinburgh yn teithio i wynebu Mansfield ar ddiwrnod cynta'r tymor ar Awst 11, cyn croesawu Nuneaton i Gasnewydd ar y nos Fawrth canlynol.
Fe fydd Wrecsam yn dechrau'r tymor ar y Cae Ras gydag ymweliad Woking - un o'r timau enillodd ddyrchafiad i'r adran y tymor diwethaf.
Ar nos Fawrth, Awst 14, tro Wrecsam yw hi i gael taith anodd, a hynny i Macclesfield - un o'r timau ddaeth i lawr o Adran 2 y tymor diwethaf.
Bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd ar Fedi 1 ar y Cae Ras, ac yna i lawr yng Nghasnewydd ar Ionawr 5, 2013.
Fe fydd gan y ddau hefyd ddiweddglo anodd i'w tymor, gyda Wrecsam yn teithio i Mansfield ar gyfer y gêm olaf, a Chasnewydd hefyd oddi cartref yn Grimsby.