Glaw yn rhwystro gobeithion Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Doedd dim chwarae yn bosib rhwng Morgannwg a Swydd Gaerloyw yng nghystadleuaeth 20/20 Friends Life ddydd Llun oherwydd y glaw cyson ym Mryste.
Mae'r ddau dîm yn casglu pwynt yr un, sy'n golygu bod Morgannwg yn aros un safle o waelod y tabl.
Mae 'na bryderon y bydd y tywydd gwael yn amharu ar yr ornest rhwng y Dreigiau a Swydd Gaerwrangon fydd yn cael ei gynnal yn Stadiwm Swalec am 6pm nos Fawrth.
Mae'n debyg nad oes llawer o obaith i Forgannwg gyrraedd rownd yr wyth olaf heblaw eu bod yn curo Swydd Gaerwrangon nos Fawrth ac yn ennill eu dwy gêm olaf yn erbyn Gwlad yr Haf a Swydd Warwick dros y Sul.
Straeon perthnasol
- 1 Gorffennaf 2012
- 3 Mehefin 2012
- 22 Ebrill 2012
- 12 Ebrill 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol