Gweinidog yn cyhoeddi newidiadau ola' i gynllun Glastir

  • Cyhoeddwyd
GwarthegFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddylai newidiadau cynllun Glastir olygu y bydd hi'n haws i ffermwyr wneud ceisiadau

Cyhoeddodd Dirprwy Weinidog Amaeth Cymru, Alun Davies, y byddai cynllun Glastir yn "gynllun sefydlog" yng Nghymru tan 2020.

Nod y cynllun yw talu ffermwyr i warchod yr amgylchedd ac fe fydd yn cymryd lle pum cynllun rheoli tir y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Mr Davies wrth y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mawrth na fyddai unrhyw adolygiad pellach o'r cynllun ac y byddai'r newidiadau diweddara' yn cael eu cyflwyno ar unwaith.

Mae'r rhain yn cynnwys llai o waith papur, rhagor o gefnogaeth i ffermwyr a gwell cynllun cyfathrebu - gan ei gwneud hi'n haws gwneud ceisiadau a rheoli'r cynllun.

Yn ogystal, bydd enwau pob elfen o Glastir yn cael eu symleiddio er mwyn hybu dealltwriaeth o'r cynllun.

O 2014 ymlaen ni fydd yna gyfyngiadau ar geisiadau, gan alluogi ffermwyr i gyflwyno cais ar adeg sy'n eu siwtio nhw. Bydd hefyd modd gwneud hynny ar-lein.

Mae undebau ffermwyr wedi beirniadu'r cynllun o'r dechrau, gan ddweud ei fod yn "rhy amgylcheddol".

'Cyfeiriad cywir'

Ond mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu'r newidiadau diweddara'.

"Tra y byddem wedi hoffi ei weld yn mynd ymhellach ar rai agweddau o'r cynllun, rydym yn croesawu'r ymgais i wella cyfathrebu ar bob lefel," meddai Gavin Williams o'r undeb.

"Mae hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir ac rydym yn edrych 'mlaen i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gael y neges gywir i ffermwyr o ystyried fod cyfathrebu yn rhywbeth sy'n gweithio'r ddwy ffordd."

Wrth gyhoeddi'r newidiadau ddydd Mawrth, dywedodd Mr Davies: "Mae hwn wedi bod yn ymarfer cadarnhaol iawn.

"Roedd y rhan fwyaf a ymatebodd yn cydnabod mai Glastir yw'r unig ffordd realistig i sicrhau diwydiant ffermio cynaliadwy yn ariannol ac amgylcheddol yng Nghymru.

"Mae fy adolygiad wedi rhoi cyfeiriad clir i Glastir. Rwyf wedi derbyn 148 o argymhellion i gyd dros y misoedd diwetha'. Rwyf nawr yn rhoi'r arweiniad gwleidyddol yr oedd gan ffermwyr yr hawl i'w ddisgwyl o'r cychwyn cynta'.

'Yma i aros'

Dywedodd nad oedd eisiau i ffermwyr gymryd yn ganiataol nad oedd gan Glastir unrhyw beth i'w gynnig iddyn nhw ond y dylen nhw edrych ar yr wybodaeth ar gael a siarad â swyddogion.

Rhoddodd wahoddiad i ffermwyr oedd wedi gwrthod y syniad ar y cychwyn i ailedrych rhag ofn bod y newidiadau yn gwneud y cynllun yn addas ar eu cyfer.

"Rwyf eisiau pwysleisio fod Glastir yma i aros ac unwaith y bydd y newidiadau wedi'r adolygiad yn cael eu cyflwyno, fydd yna ddim mwy o newidiadau sylweddol nac adolygiad pellach.

"Rwy'n gobeithio y bydd ffermwyr a rheolwyr tir eraill yn ymateb yn gadarnhaol i'r cyfle mae Glastir yn ei gynnig iddyn nhw.

"Ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cytuno fod gan Gymru gynllun amaeth-amgylcheddol ardderchog, un sy'n addas ar gyfer y dyfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol