Tynnu enw athrawes oddi ar gofrestr
- Cyhoeddwyd

Mae enw athrawes wedi ei dynnu oddi ar gofrestr athrawon am chwe mis wedi iddi "sarhau" merch bump oed.
Clywodd y gwrandawiad a barodd am ddau ddiwrnod ei bod hi wedi gorfodi'r ferch i sefyll ar ben bwrdd.
Penderfynodd y panel fod ei hymddygiad yn annerbyniol.
Derbyniodd fod Denise Archer-Jones, 55 oed a chyn ddirprwy Ysgol Glan Gele yn Abergele, wedi gweiddi'n anaddas ar Ddisgybl C a defnyddio grym corfforol gormodol.
Bydd rhaid iddi ddilyn cwrs rheoli ymddygiad cyn ailgydio yn ei gyrfa.
Hefyd derbyniodd y Cyngor Addysgu Cyffredinol ei bod hi wedi cydio ym mraich Disgybl A, ei siglo cyn ei gwthio i mewn i sedd.
'Pwysau'
Nid oedd sail i honiadau eraill, meddai'r pwyllgor disgyblu.
Ynghynt dywedodd ei bargyfreithiwr, Louis Browne: "Mae hon yn swydd, yn yrfa y mae hi'n ei charu."
Roedd y camymddwyn, meddai, yn 2007 yn "ddigwyddiadau ynysig" am ei bod hi o dan "bwysau mawr eithriadol".
Roedd y cynorthwy-ydd dysgu, Patricia Hanna, wedi dweud bod Miss Archer-Jones wedi "colli rheolaeth".
Gweiddi
Clywodd y gwrandawiad ei bod hi wedi gweiddi ar Ddisgybl C pan oedd hi'n crïo, ei chodi a'i rhoi ar fwrdd.
"Mi oeddwn i'n teimlo bod plentyn bregus yn cael ei sarhau," meddai Mrs Hanna.
Clywodd y panel yn Ewlo, Sir y Fflint, fod Miss Archer-Jones yn athrawes ers 1978.
Straeon perthnasol
- 2 Gorffennaf 2012