Pryder am gynllun cadwraeth
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad gafodd ei baratoi ar gyfer cyngor sir yn awgrymu y gallai creu ardaloedd gwarchod morol yng Nghymru fod yn niweidiol i'r economi leol a golygu colli swyddi.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu tair neu bedair ardal o'r fath ger arfordir Cymru.
Maen nhw'n ystyried 10 safle posib.
Yn ôl adroddiad ymgynghorwyr ar ran Cyngor Gwynedd fe allai hynny olygu cost o filiynau i'r economi leol.
Roedd cynghorwyr yn trafod yr adroddiad ddydd Mawrth.
£57m
Ond mae'r ffigyrau'r adroddiad yn rhagdybio y byddai'r llywodraeth yn rhoi sêl bendith i chwe pharth yn y gogledd.
Fydd hynny ddim yn digwydd.
Yn ôl yr adroddiad, byddai sefydlu chwe ardal yn y moroedd o amgylch Gwynedd yn golygu colledion o £57 miliwn i'r economi leol.
Byddai hefyd yn golygu colli hyd at 2,000 o swyddi.
Roedd yr ymgynghorwyr JOP Consulting wedi ystyried yr effaith ar dwristiaeth, y diwydiant pysgota, marinas a phorthladdoedd.
Bwriad y parthau neu'r ardaloedd yw gwarchod bywyd gwyllt.
Byddai'r gwarchodfeydd yn yr ardaloedd dan sylw yn atal pysgota masnachol a hamdden yn ogystal â gweithgareddau fel carthu ar gyfer prosiectau ynni adnewyddol.
Byddai cychod yn cael hwylio trwy'r parthau ond heb angori yno gan y byddai hynny'n difrodi gwely'r môr.
Mae Llywodraeth Cymru, sy'n trafod gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru, yng nghanol ymgynghoriad tri mis.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar Orffennaf 31.
Straeon perthnasol
- 25 Mehefin 2012
- 17 Mehefin 2012
- 24 Ebrill 2012
- 17 Ebrill 2012
- 8 Ionawr 2012