Achub menyw o afon
- Cyhoeddwyd

Cyrhaeddodd hofrennydd o Ganolfan Awyrlu Chivenor yn Nyfnaint
Mae menyw wedi ei hachub o Afon Teifi wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw i Lechryd ger Aberteifi.
Roedd y fenyw wedi mynd â'i chi am dro pan syrthiodd hi i mewn i'r afon.
Y gred yw mai cyfarth y ci arweiniodd at bobl i feddwl bod y fenyw mewn trafferthion.
Cafodd ei chludo i'r ysbyty am driniaeth.
'Her'
Fe gafodd criwiau tân o Aberteifi ac Aberystwyth eu galw tua 7:50am i'r safle ger gwesty Castell Malgwyn sy bellach yn cael ei alw'n Hammet House.
"O'dd hi'n dipyn o her o gofio ei bod hi wedi bwrw'n drwm ac yn llithrig o dan dra'd," meddai Iwan Jones o'r gwasanaeth tân.
"O'n i'n gorfod cario cyfarpar a defnyddio pedair rhaff wahanol."
Cafodd cychod eu hanfon i'r safle yn ogystal â hofrennydd Sea King yr Awyrlu.