Cynllun adfer yng Nghwm Rhondda yn nwylo'r dderbynwyr
- Published
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod menter gymdeithasol i adfer cymuned yng Nghymoedd y De yn nwylo'r derbynwyr.
Roedd cwmni Rhondda Life wedi derbyn mwy na £1.8 miliwn o nawdd oddi wrth Lywodraeth Cymru ers iddo gael ei greu yn 2009.
Mae Plaid Cymru wedi gofyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ymchwilio i'r mater.
Hyd yn hyn dim ond un rhan o'r cynllun sydd wedi'i chwblhau, ailwampio hen dafarn er mwyn creu cartref i Glwb Rygbi Glyn Rhedynog.
Amgueddfa
Mae'r adeilad yn cynnwys bar a bwyty ac mae'n dal i weithredu.
Bwriad ail ran y cynllun oedd creu amgueddfa chwaraeon ac awditoriwm yn cynnwys 200 o seddau.
Nod y drydedd ran oedd creu gwesty 20 ystafell erbyn 2014.
Mae Rhondda Life yn cyflogi 14 o staff ac yn hyfforddi 24 o bobl.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Mae'r newyddion y gallai cynllun Rhondda Life fynd i'r gwellt yn newyddion trist i'r ardal.
'£1.8m'
"Mae angen cynlluniau llwyddiannus sy'n creu swyddi.
"Dylai ymchwiliad i reolaeth a threfn lywodraethol y cynllun gael ei gynnal am fod £1.8 miliwn wedi ei wario ar y cynllun.
"Dyna pam rwy wedi gofyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru ddechrau ymchwiliad.
"Ni ddylai llefydd fel Glyn Rhedynog orfod dygymod â mwy o fethiant.
"Mae hon yn stori gyfarwydd ac mae'n rhaid iddo stopio."
'Yn adeiladol'
Mae AC y Rhondda, Leighton Andrews, wedi dweud ar ei wefan fod angen dysgu gwersi.
"Yn sicr, mae angen delio â'r mater mewn modd adeiladol, diogelu'r ased i'r gymuned, sicrhau y bydd adeilad Glynrhedyn yn dal i weithredu a sicrhau y bydd Rhondda Life yn dal i ddatblygu cynlluniau er budd y gymuned.
"Nid yw'r Rhondda angen clywed sylwadau negyddol a beirniadaeth er mwyn elw gwleidyddol tymor byr."
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru:"Rydym wedi bod yn ymwybodol fod Rhondda Life wedi bod yn dioddef anawsterau ers tro ac rydym yn cyd-weithio â'r sefydliad i geisio sicrhau dyfodol tymor hir iddo a chanfod y problemau sydd wedi effeithio ar y cwmni.
"Rydym yn ymwybodol fod Rhondda Life yn nwylo'r derbynwyr ac rydym yn cyd-weithio â'r sefydliad i ddeall yr holl oblygiadau."