Cystadleuwyr 2012: Joe Allen

Image caption Mae Joe Allen wedi bod gyda chlwb Abertawe ers yn naw oed

Pêl-droed

Ganwyd: Mawrth 14, 1990

Heblaw cyfnod byr ar fenthyg gyda Wrecsam, mae Joe Allen wedi bod gyda chlwb Abertawe ers pan oedd yn naw oed.

Bu'n aelod cyson o'r tîm o'u dyddiau yn adran 1 o'r bencampwriaeth tan iddyn nhw chwarae eu tymor cyntaf yn Uwchgynghrair Lloegr yn 2011/12.

Daeth ei gytundeb proffesiynnol cyntaf gydag Abertawe yn 2007, ac yn fuan wedyn cafodd ei alw i garfan dan-21 Cymru lle cafodd effaith yn syth gan sgorio'r gol fuddugol wrth i Gymru guro Sweden o 4-3.

Enillodd ei gap llawn cyntaf i Gymru feleilydd yn erbyn Estonia yn 2009.

Bydd yn arwr am byth ymysg cefnogwyr Abertawe gan iddo gael ei enwi'n chwaraewr gorau'r gêm wrth i'r Elyrch guro Caerdydd yn Nhachwedd 2010.

Yn 2011, fe arwyddodd Allen gytundeb newydd gydag Abertae fydd yn ei gadw gyda'r clwb tan 2015, er bod sibrydion bod nifer o glybiau eraill yr Uwchgynghrair yn cadw llygad ar y chwaraewr canol cae dawnus.