Hyd at 96% yn llai o fagiau untro
- Cyhoeddwyd

Mae hyd at 96% yn llai o fagiau untro yn cael eu defnyddio yng Nghymru, yn ôl amcangyfrif manwerthwyr bwyd, medd Llywodraeth Cymru.
Daeth rheol codi pum ceiniog am fag siopa untro newydd i rym ar 1 Hydref y llynedd.
Yn ôl John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, mae "llwyddiant y tâl am fagiau untro yn dangos bod Cymru'n arwain y ffordd i ddefnyddio llai o adnoddau ac i leihau sbwriel".
Ond mae codi tâl yn rhoi pwysau ar fusnesau bychain ac yn niweidiol i dwristiaeth, yn ôl Cynghrair y Trethdalwyr sydd am i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i'r cynllun.
Chwe mis
Ers chwe mis mae'r llywodraeth wedi bod yn gweithio gyda manwerthwyr a Chonsortiwm Manwerthu Prydain i gasglu gwybodaeth oddi wrth sampl o fanwerthwyr i amcangyfrif effaith y tâl.
Dyma'r lleihad y mae manwerthwyr yn ei amcangyfrif:
•Ffasiwn - lleihad o hyd at 75%;
•Nwyddau'r tŷ - lleihad o 95%;
•Gweini bwyd - lleihad o hyd at 45%;
•Telathrebu - lleihad o 85%
Hefyd comisiynodd Llywodraeth Cymru Brifysgol Caerdydd i gasglu data am ymddygiad pobl a'u hagweddau at y newid. Yn ôl yr ymchwil:
•mae'r tâl wedi sbarduno llawer mwy o bobl i ddefnyddio'u bagiau eu hunain yng Nghymru (o 61% cyn y newid i 82% ar ôl y newid) ym mhob grŵp oed ac ymhlith dynion a menywod fel ei gilydd;
•cyn dechrau codi'r tâl, roedd mwyafrif pobl Cymru o'i blaid (59%). Mae'r gefnogaeth wedi cynyddu ers iddo ddod i rym i 70%;
•mae "mwyafrif arwyddocaol" o bobl Cymru yn credu bod codi pum ceiniog am bob bag siopa untro yn ffordd effeithiol o leihaf gwastraff, yn helpu i leihau sbwriel ac maen nhw'n barod i dalu'r pum ceiniog os ydy'r arian yn mynd at elusen.
Dywedodd y gweinidog: "Mae'n edrych yn debyg felly ein bod wedi llwyddo i daro'r nod o leihau nifer y bagiau siopa untro sy'n cael eu cyflenwi yng Nghymru - a helpu newid ymddygiad pobl i ailddefnyddio bagiau wrth siopa, nid yn unig ar gyfer bwyd ond hefyd wrth siopa yn y stryd fawr".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2012
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd1 Medi 2011
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2011
- Cyhoeddwyd29 Medi 2011
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2010
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2009
- Cyhoeddwyd25 Awst 2010
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2007