Damwain rhwng dau gar a bws

  • Cyhoeddwyd
DamwainFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r heddlu'n apelio am dystion i'r ddamwain

Mae un person wedi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau i'w gefn oherwydd gwrthdrawiad rhwng dau gar a bws yn Nantgarw, Rhondda Cynon Taf, fore Mercher.

Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o Gaerffili a Phontypridd eu galw oherwydd y ddamwain ar yr A4054 yn Heol Caerdydd, Nantgarw, am 9.30am.

Bu'n rhaid defnyddio offer arbenigol i dorri'r person yn rhydd o'r car.

Mae'r heddlu'n apelio am dystion.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y ddamwain ffonio'r heddlu ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol