Cyflwynwraig deledu yn pledio'n ddi-euog
- Cyhoeddwyd

Mae cyflwynwraig deledu wedi pledio'n ddieuog yn Llys y Goron Abertawe i dorri rheolau iechyd a diogelwch mewn parc bywyd gwyllt yn Sir Benfro.
Y gyflwynwraig Anna Ryder Richardson a'i gŵr Colin MacDougall yw perchnogion Parc Bywyd Gwyllt Manor House ger Dinbych-y-Pysgod.
Ym mis Awst 2010 bu'n rhaid i fachgen pedair oed gael triniaeth yn uned gofal dwys plant Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd ar ôl i goeden syrthio arno.
Roedd y bachgen, a gafodd anafiadau difrifol i'w ben, yn y parc gyda'i fam, 28 oed, gafodd ei hanafu hefyd pan syrthiodd y goden.
Ddydd Mercher, cafodd yr achos ei ohirio.
Mae disgwyl i'r achos yn Llys y Goron Abertawe ddechrau ar Dachwedd 12.
Mae 'na anifeiliaid egsotig yn y parc yn ogystal â pharc chwarae, ac mae cyfres deledu, Anna's Welsh Zoo, wedi cael ei darlledu ar ITV Cymru.