Abertawe'n colli Sigurdsson

  • Cyhoeddwyd
Gylfi SigurdssonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bu Gulfi Sigurdsson ar fenthyg gydag Abertawe y tymor diwethaf

Mae Clwb Pêl-droed Tottenham wedi arwyddo'r chwaraewr canol cae, Gylfi Sigurdsson, gan roi diwedd ar obeithion Abertawe o'i gadw.

Ym mis Mai fe wnaeth Abertawe gytuno ar ffi o ryw £7.2 miliwn gyda chlwb Hoffenheim yn yr Almaen er mwyn arwyddo Sigurdsson yn barhaol.

Ond ers i Brendan Rodgers adael ei swydd fel rheolwr Abertawe, bu dyfalu na fyddai'r clwb o Gymru yn medru dal eu gafael arno yn barhaol.

Bu'r chwaraewr canol cae o Wlad yr Iâ ar fenthyg yn Stadiwm Liberty ers mis Ionawr tan ddiwedd y tymor.

Sgoriodd y chwaraewr 22 oed saith o goliau mewn 17 gêm i Abertawe.