Timau Cymru yn chwarae yng Nghynghrair Europa
- Cyhoeddwyd

Er bod y tymor pêl-droed i rai newydd ddod i ben wedi pencampwriaeth Euro 2012 yng Ngwlad Pwyl a'r Wcráin, fe fydd rhai o glybiau Cymru yn cychwyn ar eu hymgyrch nhw yn Ewrop.
Nos Iau fe fydd tri o glybiau Cymru yn herio clybiau Ewropeaidd.
Bydd Llanelli, Derwyddon Cefn a Bangor yn chwarae yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.
I gefnogwyr Bangor fe fydd hi'n noson fawr wrth i'r tîm chwarae gêm Ewropeaidd yn y ddinas am y tro cyntaf ers 1998.
Oherwydd safon eu hen stadiwm yn Ffordd Farrar, roedd rhaid i Fangor chwarae eu gemau cartref ar feysydd eraill ar hyd y gogledd.
Ond gyda stadiwm newydd yn Nantporth wedi agor ers dechrau'r flwyddyn bydd cefnogwyr y Dinasyddion ddim yn gorfod teithio'n bell ar gyfer y cymal cartref.
FC Zimbru o Moldova fydd eu gwrthwynebwyr.
Nosweithiau hanesyddol
Gobaith Bangor, a fydd yn cychwyn y gêm fel ffefrynnau, fydd efelychu nosweithiau hanesyddol a gafwyd yn erbyn rhai o dimau mawr Ewrop ar Ffordd Farrar.
Ymhlith yr ymwelwyr roedd Napoli ac Atletico Madrid.
Ac fe fydd hi'n noson fawr yn Wrecsam wrth i Derwyddon Cefn chwarae ar y Cae Ras wrth wynebu Myllokosken Pallo-47 (MyPa) o'r Ffindir.
Dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw chwarae yn Ewrop.
Dyma'r tro cyntaf i dîm o gynghrair y Cymru Alliance - ail haen Cymru - chwarae yn Ewrop ers sefydlu Uwchgynghrair Cymru yn 1992.
Llwyddodd y Derwyddon i sicrhau eu lle yn Ewrop er gwaetha' colli i'r Seintiau Newydd yng Nghwpan Cymru fis Mai.
Ond wrth i'r Seintiau ennill y gynghrair a sicrhau lle yng Nghynghrair y Pencampwyr, roedd yn caniatáu lle i'r Derwyddon.
Y Derwyddon gwreiddiol oedd yn dominyddu pêl-droed yng Nghymru gan ennill Cwpan Cymru ar wyth achlysur ac roedd chwech o'r tîm yng ngharfan genedlaethol gyntaf Cymru yn erbyn Yr Alban yn 1876.
Fe wnaeth MyPa guro'r Seintiau Newydd yng ngemau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr yn 2006.
Her i'r Derwyddon
Tîm arall o'r Ffindir fydd yn wynebu Llanelli, Kuopion Palloseura (KuPS).
Mae ganddyn nhw dasg tipyn haws na'r Derwyddon.
Mae timau'r Ffindir hanner ffordd drwy eu tymor nhw, a dim ond pedair o'r 16 gêm agoriadol y mae'r ymwelwyr wedi eu hennill yn y gynghrair.
"Dwi'n gweld Llanelli a Bangor yn llwyddo i fynd drwodd i'r ail rownd," meddai Marc Lloyd Williams, prif sgoriwr Cynghrair Cymru.
"Yn fy marn i, fe fydd gan Lanelli fwy o obaith gan fod eu gwrthwynebwyr yn ei chael yn anodd adre a thasg Llanelli fydd ceisio manteisio ar y gôl oddi cartref cyn yr ail gymal yr wythnos nesaf ym Mharc Stebonheath.
"Bydd rhaid i Fangor sicrhau na fydd 'na fwy na gôl o fantais wrth iddyn nhw deithio i brifddinas Moldova, Chisinau, yr wythnos nesa'.
"Ond gan Derwyddon Cefn y mae'r dasg anoddaf yn erbyn MyPa."
Cynghrair Europa:
Rownd 1 Cymal 1
Bangor v FC Zimbru Chisinau (7.45pm)
Kuopion Palloseura (KuPS) v Llanelli (4.30pm)
Derwyddon Cefn v Myllokosken Pallo-47 (MyPa) (7.30pm)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd5 Mai 2012
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2012