Diffyg cyllid yn rhoi diwedd ar brosiect cerdd Bocsŵn
gan Nia Cerys
Newyddion BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae prosiect unigryw i helpu pobl ifanc di-waith ar Ynys Môn yn dod i ben am nad oes digon o arian i'w gynnal.
Roedd cynllun Bocsŵn yn derbyn grant o Ewrop ond mae'r arian hwnnw bellach wedi gorffen.
Dyw trefnwyr y cynllun, Menter Môn, ddim wedi llwyddo i ddod o hyd i nawdd arall hyd yma.
Dros 10 mlynedd mae Bocsŵn wedi rhoi cyfleoedd i dros 16,000 o blant a phobl ifanc ddatblygu sgiliau cerddoriaeth - nifer ohonyn nhw yn ddi-waith.
'Colled fawr'
Un o'r rhai sydd wedi elwa ydy Gethin Rheon Jones, o Lanfairpwll, a ddywedodd:
"Heb hwn faswn i'n eistedd adre'n gwneud dim byd mae'n siwr, dim ond lolian o gwmpas.
"Mae'r prosiect wedi agor fy llygaid i i sut fedra' i recordio ac ella be' i wneud hefo miwsig yn y dyfodol - 'swn i eisiau agor stiwdio fy hun, neu wneud prosiect fy hun.
"Mae wedi helpu'n fawr iawn fel 'na - mae'n golled fawr."
Ym mis Ionawr fe symudodd Bocsŵn i Stiwdio 12 yn Llangefni, lle mae yna gyfleusterau recordio, gofod perfformio, ystafelloedd golygu ynghyd â gorsaf radio cymunedol.
Ond er gwaetha'r buddsoddiad a'r gwaith caled, mae'r cyfan yn dod i ben oherwydd diffyg cyllid.
Dywedodd rheolwr y prosiect, Mark Adams:
"Da ni 'di colli lot o grantiau, sydd wedi gwneud hi'n anodd codi prês.
"Roedden ni'n gobeithio y byddai ochr fasnachol y stiwdio'n cymryd drosodd i ariannu'r gwaith ieuenctid oedden ni'n wneud - ond yn anffodus, dydy o ddim wedi gweithio fel 'na.
"Mae bob dim yn newydd yn y stiwdio, yn state of the art - mae'n bechod mawr."
'Wrth eu boddau'
Mae nifer o ysgolion lleol wedi elwa o weithdai Bocsŵn dros y blynyddoedd, fel yr eglura pennaeth cerdd Ysgol Gyfun Llangefni, Bari Gwilliam:
"Mi fuon nhw yma hefo'u hiwcalilis - fe wnaethon ni gynnig hynny i ddosbarthiadau anghenion arbennig.
"Wnaethon nhw elwa lot ohono fo. Roedd lot wedi dod allan o'u hunain, yn ofn chwarae nodau anghywir i ddechrau ond erbyn y diwedd roedden nhw wedi cyfansoddi cân, wedi recordio, roedden nhw wrth eu boddau."
Tra bod Menter Môn yn cydnabod ei bod yn anodd dod o hyd i nawdd ar gyfer prosiectau fel hyn, maen nhw yn ffyddiog y bydd modd parhau ag elfennau o'r cynllun.
Meddai Dafydd Gruffydd, Rheolwr Busnes Menter Môn:
"Yn amlwg 'da ni wedi'n siomi ein bod ni wedi methu â chael grantiau i barhau â'r cynllun i'r dyfodol, ond rydan ni'n dal yn bositif y bydd 'na weithgareddau'n parhau.
"Bydd brand Bocsŵn yn dod i ben yn anffodus, ond mi fydd yn rhoi cyfle i ni edrych ar gyfleoedd eraill o fewn y sector cerddoriaeth i bobl ifanc."