AC Llafur yn ceryddu Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd

Cafodd y prif weinidog Carwyn Jones ei geryddu gan AC Llafur wedi iddo awgrymu y byddai croeso i lynges danddwr niwclear y DU yng Nghymru.
Dywedodd AC Gorllewin Caerdydd, Mark Drakeford, ei fod yn gwrthwynebu'n llwyr lleoli taflegrau niwclear yng Nghymru.
Daeth ei sylwadau wedi i Mr Jones godi'r posibilrwydd o sustemau arfau Trident yn gadael eu canolfan bresennol yn Yr Alban a symud i Aberdaugleddau.
Mae Llywodraeth Yr Alban am i lynges niwclear y DU symud o'u canolfan ar arfordir gorllewinol y wlad.
Ym mis Mehefin, dywedodd Mr Jones yn y Senedd y byddai Trident, a'r holl swyddi fyddai'n dod yn ei sgil, yn derbyn "mwy na chroeso" yn Aberdaugleddau pe bai'n gorfod gadael Faslane.
Ddydd Mercher, cafodd cynnig gan Blaid Cymru yn y Senedd oedd yn gwrthwynebu adnewyddu Trident ei drechu mewn pleidlais, gydag ACau yn hytrach yn cefnogi cynnig gan Lafur oedd yn dweud nad oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau dros arfau niwclear.
Dywedodd Mr Drakeford, cyn ymgynghorydd i ragflaenydd Mr Jones, Rhodri Morgan, bod y drafodaeth yn ddamcaniaethol gan nad oedd y penderfyniad wedi ei ddatganoli, ond y byddai "gyfan gwbl yn erbyn y syniad y gallai Cymru fod yn gartref i arfau niwclear".
'Dadgomisiynu'
Dywedodd ei fod yn falch o gytuno gyda'r miloedd o bobl "o fewn fy mhlaid a thu hwnt" oedd yn galw am ddadgomisiynu rhaglen niwclear Trident ar unwaith.
Wrth ymateb, mynnodd Mr Jones wybod beth oedd safbwynt Plaid Cymru ar gael gorsaf bŵer niwclear newydd yn y Wylfa ar Ynys Môn, ac ar hunanbenderfyniaeth Ynysoedd y Falklands.
Dywedodd: "Byddwn yn canolbwyntio ar faterion sy'n berthnasol i bobl Cymru. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar faterion y gallwn wneud rhywbeth amdanyn nhw."
Roedd Mr Drakeford yn un o dri AC Llafur a danlinellodd ei gwrthwynebiad i arfau niwclear yn ystod y drafodaeth.
Fe gyhuddodd AC Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas, y prif weinidog o "ymddygiad gwarthus".
"Rhaid i mi ddweud," meddai, "mai dyma'r cyfraniad salaf i mi glywed gan unrhyw aelod o'r Cynulliad heb son am brif weinidog."
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oes cynlluniau i symud arfau niwclear o Ganolfan y Llynges yn Clyde.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2012