Lluniau o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2012
- Cyhoeddwyd

Er gwaetha'r tywydd gwlyb mae Eisteddfod Llangollen yn dal i fod yn olygfa liwgar.

Mae grwpiau dawnsio wedi dod o sawl gwlad dros y byd, gan gynnwys India.
Mae cerddorion hefyd yn mynychu'r eisteddfod.
Dydd Iau oedd diwrnod cystadlaethau ar gyfer pobl ifanc.
Mae'r ddau gystadleuydd yma wedi teithio o Singapôr i gystadlu yn yr Ŵyl.
Mae cerddorion eraill wedi dod i Langollen o Gwrdistan.
Mae yna nifer o stondinau'n gwerthu bwyd o wahanol wledydd o amgylch y maes.
Wedi glaw dechrau'r wythnos, daeth yr haul i godi calonau eisteddfodwyr dydd Iau.
Bydd Eisteddfod Llangollen yn gorffen ar Orffennaf 8.