'Y Cymro hynaf' wedi marw

Rhys Thomas Lewis Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd Rhys Thomas Lewis ei eni yn Llanelli yn 1903

Mae cyn-löwr, oedd yn debygol o fod y dyn hynaf yng Nghymru, wedi marw yn 108 oed.

Cafodd Rhys Thomas Lewis ei eni yn Llanelli yn 1903 a'i fagu yn y dref.

Roedd yn gweithio fel glöwr tan iddo ennill ysgoloriaeth i astudio hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn ddiweddarach, roedd yn ddarlithydd hanes yn Wockingham, Berkshire.

'Siarad Cymraeg'

Yn ôl teulu, er ei fod wedi treulio llawer o'i fywyd yn Lloegr, roedd yn Gymro balch oedd yn cymryd pob cyfle i siarad Cymraeg.

Dywedodd ei nith, Gaynor Isaac o Bort Talbot: " Roedd e'n ddyn hyfryd ac rydym yn falch iawn ei fod wedi byw mor hir. Mae'n anhygoel, a dweud y gwir."

Bu farw dwy o chwiorydd Mr Lewis y llynedd, Doris yn 102 oed a Megan yn 99 oed.

Mae Mr Lewis yn gadael dau fab, John a Peter, saith ŵyr a phedwar gor-ŵyr.

Straeon perthnasol