BBC Cymru Fyw

Mam ar gyhuddiad o lofruddio: Anfon rheithgor adre

Published
image copyrightAthena
image captionMae Michelle Smith wedi gwadu llofruddio ei merch 42 ddiwrnod oed

Mae rheithgor achos mam o Dreforys ar gyhuddiad o lofruddio ei babi 42 ddiwrnod oed wedi cael eu hanfon adre.

Yn Llys y Goron Abertawe mae Michelle Smith, 33 oed, wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Mae cyhuddiad o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn wedi ei ollwng ac un o ddynladdiad yn ei le.

Cafwyd hyd i'r cyffur dihydrocodeine yng ngwaed ei babi, Amy, ar ôl archwiliad post-mortem.

Lleddfu poen

Bu farw'r babi ar Dachwedd 9, 2007, ar ôl cael ei chludo i'r ysbyty.

Mae'r erlyniad wedi honni ei bod hi wedi dodi cyffuriau lleddfu poen ar ei chyfer hi a'i gŵr, Christpoher Smith, ym mwyd ei babi.

Y diwrnod y bu farw Amy daeth ymwelydd iechyd i'r tŷ a dweud bod y babi mewn cyflwr gwbl iach.

Gwadu

Mae'r fam wedi gwadu ei bod wedi niweidio'r babi ac wedi dweud na chafodd Amy unrhyw feddyginiaethau.

Yn hytrach mae hi wedi honni bod rhywun yn Ysbyty Singleton wedi rhoi'r cyffur iddi.

Er nad oedd cofnod o'r cyffur yn cael ei roi yn yr ysbyty, meddai, doedd hynny ddim yn golygu nad oedd neb wedi rhoi'r cyffur.

Straeon perthnasol

  • Mam yn gwadu llofruddio ei babi chwe wythnos oed