Rhybudd am lifogydd posib

  • Cyhoeddwyd
Talybont, Ceredigion. Llun: Elaine RowlandsFfynhonnell y llun, ELAINE ROWLANDS
Disgrifiad o’r llun,
Daw'r rhybuddion diweddaraf yn dilyn llifogydd mewn rhannau o ganolbarth a gogledd Cymru fis diwethaf.

Mae rhybudd gan y Swyddfa Dywydd o law trwm ddydd Gwener a all achosi llifogydd.

Mae'n bosib y bydd rhwng 40 -50 mm, sef tua dwy fodfedd, o law mewn sawl man yn enwedig yn y gogledd a'r canolbarth.

Mae posibilrwydd y bydd rhwng 60 - 70 mm o law, sef tua thair modfedd, yn syrthio mewn ychydig o oriau ar dir uchel yn y gogledd ddwyrain.

Bydd y gwynt yn ysgafn a'r tymheredd ar ei uchaf tua phedair gradd ar bymtheg selsiws.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cadw golwg ar afonydd yn ardal Bae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr.

Bydd hi'n parhau'n ansefydlog dros y penwythnos. Bydd cyfnodau braf, gyda chyfnodau o law am gyfnod yn y gogledd ddydd Sadwrn

Mae disgwyl iddi fod yn gawodlyd ddydd Sul.

Difrod

Daw'r rhybuddion diweddaraf yn dilyn llifogydd mewn rhannau o ganolbarth a gogledd Cymru fis diwethaf.

Aberystwyth a phentrefi Talybont, Dôl-y-bont a Llandre welodd y trafferthion gwaethaf wrth i rannau o Geredigion gael eu taro gan bum troedfedd o ddŵr llifogydd.

Dywed rhai teuluoedd fod posibilrwydd na fyddan nhw'n medru dychwelyd i'w cartrefi am hyd at naw mis wrth i'r difrod gael ei drwsio.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn annog y cyhoedd i chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd naill ai drwy ddarllediadau newyddion, neu eu gwefan a'u llinell gymorth arbennig, sef 0845 988 1188.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol