BBC Cymru Fyw

Rôl newydd i Alan Curtis gyda'r Elyrch

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionRoedd Alan Curtis yn un o sêr y clwb yn yr 1980au
Mae un o arwyr Clwb Pêl-droed Abertawe fel chwaraewr, Alan Curtis, wedi cael ei benodi i swydd newydd gan y rheolwr Michael Laudrup.
Sgoriodd Curtis, sy'n 58 oed, 95 o goliau mewn 359 ymddangosiad i'r Elyrch, ac yn y gorffennol bu'n gweithio gyda thimau ieuenctid y clwb.
Ond gyda Kristian O'Leary yn dychwelyd i'r clwb i gymryd y swydd honno, mae Curtis bellach wedi ei ddyrchafu, ac wedi cael mwy o gyfrifoldeb gan Laudrup.
Fe fydd yn gweithio ochr yn ochr gyda Erik Larsen fel hyfforddwr y tîm cyntaf.
Dywedodd cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins: "Bydd Alan yn gweithio'n agos gyda Michael (Laudrup) ar bob mater yn ymwneud â'r tîm cyntaf.
"Bydd yn cynnig cyswllt parhaus gyda'r hyn yr ydym wedi ei ddatblygu yn y clwb yma dros y blynyddoedd diweddar.
"Fe fydd Alan yn rhoi gwybodaeth i Michael nid yn unig am y garfan bresennol a'i brofiad o fywyd yn yr Uwchgynghrair, ond mae pethau wedi cael eu rhedeg yn y clwb dros y blynyddoedd.
"Bydd hynny yn ei dro yn hwyluso'r gwaith o bontio Michael i'r clwb pêl-droed.
"Mae enw da Alan fel hyfforddwr ac fel person gyda'r gorau, ac fe fyddai'n ffôl i beidio defnyddio ei dalentau i'r eithaf.
"Bu'n was ffyddlon iawn i'r clwb yma, a hir oes i hynny."