BBC Cymru Fyw

Rhestr fer Llafur ar gyfer isetholiad De Caerdydd a Phenarth

Published
image copyrightY Blaid Lafur
image captionMae Alun Michael wedi cynrychioli'r etholaeth ers 1987

Gydag Alun Michael yn ymgeisio ar gyfer swydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru mae'n ymddiswyddo fel Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth.

Fe fydd rhaid cynnal isetholiad felly.

Mae'r Blaid Lafur wedi cyhoeddi rhestr fer o ymgeiswyr posib ar gyfer yr isetholiad.

Does 'na ddim cyhoeddiad eto ar ddyddiad yr isetholiad.

Fe fydd etholiad ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throsedd y DU yn cael ei gynnal ar Dachwedd 15.

Fe fydd aelodau lleol y Blaid Lafur yn yr etholaeth yn dewis eu hymgeisydd mewn cyfarfod yr wythnos nesaf.

Straeon perthnasol

  • Ymgeiswyr swydd comisiynwyr heddlu