Cynllun i warchod ffermydd

  • Cyhoeddwyd
Cynllun Farmwatch
Disgrifiad o’r llun,
Y nod yw sicrhau bod dros 150 o ffermydd yn ymuno â'r cynllun

Mae undeb ffermwyr a Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio mewn cynllun i ddiogelu ffermwyr a chymunedau gwledig gogledd Gwynedd.

Y nod yw sicrhau bod dros 150 o ffermydd yn ymuno â'r cynllun fydd yn cael ei lansio yn Sioe Caernarfon ddydd Sadwrn.

Gan ddefnyddio cynllun 'OWL' - On-line Watch Link, mae NFU Cymru a swyddogion heddlu lleol yn gobeithio creu rhwydwaith o ffermydd lleol.

Y bwriad yw atal a datrys troseddau ynghyd â rhoi a gwybodaeth ynglŷn â beth sy'n digwydd yn yr ardaloedd cyfagos.

'Llwyddiant ysgubol'

Dywedodd y Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Ian Rooksby: "Nod y cynllun yw sicrhau bod ffermwyr lleol yn cyfathrebu gyda'i gilydd a gyda'r heddlu pan fydd ganddynt bryderon ac er mwyn rhannu gwybodaeth am unrhyw weithgaredd neu unigolion amheus yn yr ardal.

"Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol mewn ardaloedd eraill ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn llwyddiant yma hefyd os lwyddwn i ennyn diddordeb y gymuned".

Gall aelodau ymuno â'r cynllun am ddim ond mae'n rhaid cael mynediad i'r rhyngrwyd a chofrestru er mwyn derbyn a phasio gwybodaeth berthnasol ymlaen.

Dywedodd Ysgrifennydd Lleol NFU Cymru Hedd Rhys: "Mae NFU Cymru yn fwy na pharod i gefnogi unrhyw beth sy'n diogelu ac sy'n rhoi gwybodaeth i'n cymunedau ffermio a hoffwn annog ein holl aelodau yn yr ardal i ymuno â'r cynllun.

"Mae nifer o ffermydd eisoes wedi datgan eu parodrwydd i wneud hynny. "

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol