Glaw yn gostegu ond rhybuddion yn parahu

  • Cyhoeddwyd

Mae'r perygl o lifogydd wedi gostegu yng Nghymru ond mae rhybuddion yr Asiantaeth Amgylchedd yn parhau mewn rhai manau.

Bu llai o law dydd Sadwrn ar ôl cyfnod o law trwm nos Wener.

A daeth i'r amlwg fod Tywysog Cymru wedi gwneud cyfraniad tuag at yr apêl a gafodd ei lansio ar gyfer y trigolion yng Ngheredigion wnaeth ddiode' o lifogydd ym mis Mehefin.

Gwnaed y cyhoeddiad wrth i'r tywysog baratoi ar gyfer ei ymweliad â Chymru sy'n dechrau dydd Llun.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i rannau o Gymru ddioddef rhagor o law trwm.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn galwadau i ddweud bod nifer o dai yn ardal Aberdaron wedi diodde' oherwydd llifogydd nos Wener.

Bu'n rhaid i briffordd yr M50 gael ei chau o'r gyffordd â ffordd yr M5 am gyfnod nos Wener.

Ddydd Sadwrn roedd chwe rhybudd llifogydd - byddwch yn barod - mewn grym ar afonydd Tefeidiad Uchaf uwchlaw Tref-y-Clawdd, Dyffryn Dyfrdwy Isaf o Langollen i Gaer, yr afon Gwy ym Mhowys, afon Arwy ym Mhowys, Hafren Uchaf ym Mhowys ac ardal Efyrnwy.

Wakestock

Nos Wener bu'n rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddelio â llifogydd yn Llanddulas, Conwy a Bae Colwyn.

Bu hefyd adroddiadau bod ffordd yr A489 ym mhentref Ceri ger Y Drenewydd yn dioddef o lifogydd.

Ym Mhenrhos ger Pwllheli, mae trefnwyr gŵyl Wakestock wedi dweud eu bod yn gobeithio parhau gyda'r ŵyl dros y penwythnos er gwaethaf glaw trwm yn yr ardal fore Gwener.

Er hynny mae nifer o wersyllwyr wedi cael eu symud o rannau gwlyb i rannau mwy sych maes pebyll yr ŵyl.

Dywedodd y Gwasanaeth Tân eu bod mewn tŷ yn Sarn lle mae tair modfedd o ddŵr yn y tŷ, a throedfedd arall y tu allan.

Daeth galwadau hefyd gan berson oedrannus yn Llaniestyn oedd â dŵr yn y tŷ wedi i'r draeniau orlifo, ac mae'r gwasanaeth hefyd yn cynghori person yn Aberdaron ei hun wrth i lefel y dŵr godi yn agos i eiddo arall.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân eu bod yn cadw mewn cysylltiad gydag Asiantaeth yr Amgylchedd gydol y dydd.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn annog y cyhoedd i chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd naill ai drwy ddarllediadau newyddion, neu eu gwefan a'u llinell gymorth arbennig, sef 0845 988 1188.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol