Warburton yn ennill ei apêl
- Cyhoeddwyd

Mae'r rhedwr 800 metr Gareth Warburton wedi ennill ei apêl i gael ei gynnwys yn nhîm Olympaidd Prydain.
Cafodd Warburton ei adael allan o'r garfan ar ôl methu a sicrhau rhedeg ail ras o fewn amser penodedig.
Ond ar ôl ennill ei apêl bydd y rhedwr 30 oed yn ymuno ag Andrew Osagie a Michael Rimmer ar gyfer y gystadleuaeth 800m.
Dywedodd Ed Warner, cadeirydd Athletau'r Deyrnas Unedig, a chadeirydd y panel apêl: "Rydym yn gwerthfawrogi fod hwn yn amser anodd i'r rhai sydd wedi methu yn eu hapêl.
"Heddiw fe wnaeth y panel ystyried 11 apêl, dim ond un Gareth oedd yn llwyddiannus.
Doedd Warburton ond 0.2 eiliad o sicrhau'r amser oedd ei angen yn Helsinki.
"Rwy'n hynod o falch i gael fy newis i gynrychioli fy ngwlad yn y gemau Olympaidd," meddai.
"Mae hwn yn gyfle gwych i mi, ac rwy'n bwriadau gwneud y gorau ohono."
Straeon perthnasol
- 3 Gorffennaf 2012
- 29 Mehefin 2012
- 25 Mehefin 2012