Beiciwr modur yn yr ysbyty ar ôl damwain yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am dystion wedi i yrrwr beic modur gael ei anafu'n ddifrifol yn dilyn damwain ffordd yn Sir Benfro.
Bu'r beic modur mewn gwrthdrawiad â char ar ffordd yr A487 rhwng Trefdraeth a Dinas tua 2:45pm ddydd Sul.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys fe gafodd y gyrrwr ei gludo i'r ysbyty gan hofrennydd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu ag Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Dyfed-Powys ar 01267 222020 neu 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol