Y Scarlets yn arwyddo Gareth Owen
- Cyhoeddwyd
Mae'r Scarlets wedi arwyddo cyn-olwr y Gweilch Gareth Owen ar drothwy tymor 2012-13.
Nid oedd Owen, 23 oed, yn gallu chwarae i'r Gweilch y tymor diwethaf wedi iddo gael triniaeth ar ei ben-glin.
Dywedodd yr olwr pob safle o Ben-y-bont ar Ogwr ei fod yn edrych ymlaen at chwarae i'r Scarlets y tymor nesaf.
Mae Owen, chwaraeodd 50 o weithiau i'r Gweilch, yn gallu chwarae fel mewnwr, canolwr neu gefnwr ac mae wedi cynrychioli Cymru o dan 19 oed ac o dan 20.
'Yn dalentog'
Dywedodd hyfforddwr ymosodol y Scarlets, Mark Jones: "Mae'n chwaraewr talentog, amryddawn fydd yn gallu cynnig opsiynau ymosodol i ni."
Fe yw ail gyn-chwaraewr y Gweilch sydd wedi ymuno â'r Scarlets ar gyfer y tymor nesaf ac mae'n dilyn ôl troed yr asgellwr Kristian Phillips.
Yn ddiweddar, mae'r Scarlets wedi arwyddo'r clo o'r Ariannin, Tomás Vallejos, a'r clo o dde Affrica, George Earle.
Straeon perthnasol
- 30 Mehefin 2012
- 23 Mehefin 2012
- 2 Mehefin 2012
- 21 Mai 2012