Cyn-glo Cymru a Chastell-nedd wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn-glo Cymru a chyn-reolwr Clwb Rygbi Castell-nedd, Brian Thomas, fu farw'n 72 oed.
Dywedodd Ysgrifennydd Clwb Rygbi Castell-nedd, Mike Price, fod Mr Thomas wedi marw ddydd Llun ar ôl salwch hir.
Roedd wedi chwarae 21 o weithiau i Gymru yn ystod y chwedegau a bu'n capten Castell-nedd cyn iddo fod yn rheolwr y tîm yn yr wythdegau a'r nawdegau
Dywedodd Aelod Seneddol Castell-nedd, Peter Hain, ar wefan Twitter fod Mr Thomas, aeth i Ysgol Ramadeg Castell-nedd a Phrifysgol Caergrawnt, yn "un o gewri rygbi Castell-nedd".
'Mynnu parch llwyr'
Cafodd Castell-nedd lwyddiant aruthrol pan oedd yn rheolwr y clwb rhwng 1981 a 1996.
Enillon nhw Bencampwriaeth Cymru bum tro yn 1987, 1989, 1990, 1991 a 1996 a Chwpan Cymru yn 1989 a 1990.
Dywedodd Mr Price fod ei gyfraniad i rygbi Cymru yn "anferth" a'i fod yn "mynnu parch llwyr".
"Chafodd neb gymaint o ddylanwad ar Glwb Rygbi Castell-nedd yn yr oes fodern na Brian Thomas," meddai.
'Ysbrydoli'
"Roedd yn arweinydd gwych ar y cae ac oddi ar y cae ac roedd ganddo'r ddawn i sicrhau bod pobl yn gwneud y gorau o'u doniau.
"Roedd ganddo feddwl chwim ac roedd yn garedig iawn, yn poeni am les pobl yr oedd yn eu hadnabod.
"Cefais f'ysbrydoli bob tro roeddwn i yn ei gwmni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2012
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2012