Nyrs yn gwadu cyhuddiadau o gamymddwyn

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Rockwood, Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Dechreuodd Miss Gervaise-Brazier weithio yn Ysbyty Rockwood ym mis Ebrill 2004

Mae panel cyngor nyrsio wedi clywed bod nyrs wedi dweud wrth gyd-weithiwr am beidio rhuthro i ddadebru claf ag anaf asgwrn cefn pe bae'n cael trawiad ar y galon.

Honnir hefyd bod Gervaise-Brazier, 55 oed, o Drecenydd, Caerffili, wedi dweud wrth glaf oedd yn agored i niwed i gau ei geg neu fe fyddai'n ei dywys i'r maes parcio a galw'r heddlu.

Roedd Miss Gervaise-Brazier yn gweithio fel nyrs staff yn Ysbyty Rookwood yng Nghaerdydd ar y pryd.

Mae hi'n gwadu pedwar cyhuddiad o gamymddygiad.

'Peidio rhuthro'

Clywodd Panel Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fod Miss Gervaise-Brazier wedi dechrau gweithio yn yr ysbyty ym mis Ebrill 2004 a'i bod yn delio â chleifion ag anafiadau i'w hesgyrn cefn oedd, yn aml, wedi'u parlysu ac yn agored i niwed.

Dywedodd David Patience, a gyflwynodd yr achos, fod Miss Gervaise-Brazier wedi dweud wrth ddwy nyrs gynorthwyol, Linda Camilleri a Hayley Fuller, i "beidio rhuthro" os byddai claf, a'i elwir yn Claf A, yn cael trawiad ar y galon yn ystod shifft nos ym mis Rhagfyr 2007.

"Dywedodd Mrs Camilleri ei fod yn meddwl bod hyn yn golygu na ddylen nhw ruthro i helpu Claf A," meddai Mr Patience wrth y panel.

Dywedodd Mrs Camilleri ei bod hi wedi cael ei bwrw oddi ar ei hechel yn dilyn y digwyddiad a'i bod wedi anfon llythyr yn sôn am y digwyddiad rai dyddiau'n ddiweddarach.

Pan gafodd ei holi ar y pryd, dywedodd Miss Gervaise-Brazier nad oedd gan y claf ansawdd bywyd.

Ond yn ddiweddarach, dywedodd Miss Gervaise-Brazier mai ystyr y term "peidio rhuthro" oedd i'r nyrsys cynorthwyol sicrhau eu bod yn dilyn trefn briodol.

Llefain

Honnir hefyd i Miss Gervaise-Brazier ddweud wrth Glaf B i gau ei geg pan oedd e'n llefain ac yn cwyno nad oedd yn gallu symud ei goesau cyn dweud wrtho "dych chi ddim yn gallu symud eich coesau am eich bod wedi cael eich parlysu ac fe fyddwch chi mewn cadair olwyn am weddill eich hoes".

Clywodd y panel fod Claf B newydd gyrraedd y ward ac yn aml nad oedd cleifion cael eu hysbysu ynglŷn â'u diagnosis.

Mae Miss Gervaise-Brazier yn gwadu'r honiadau, ac mae'r gwrandawiad yn parhau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol