'Braint anhygoel' i Dai Greene

Dai Greene Image copyright Getty Images
Image caption Mae disgwyl i Dai Greene fod ymysg y medalau yn y Gemau Olympaidd yn Llundain 2012

Pencampwr y byd yn y 400m dros y clwydi, Dai Greene, yw capten tîm athletau Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd.

Dywedodd y Cymro 26 oed o Felinfoel, Llanelli: "Mae'n fraint anhygoel bod yn gapten ar unrhyw adeg.

"Ond mae derbyn yr anrhydedd pan yw'r gemau yn cael eu cynnal ym Mhrydain yn wych."

Nos Wener rhedodd amser gorau ei yrfa wrth iddo orffen yn ail yn y 400m dros y clwydi yn y Diamond League ym Mharis.

Llwyddodd Javier Culson o Puerto Rica i gofnodi amser o 47.78 eiliad wrth i Greene gofnodi 47.84 eiliad.

Hwn oedd yr ail dro i Greene golli i Culson yn y gynghrair eleni, ond mae Greene bellach yn agosach fyth at record Prydain o 47.82 a osodwyd gan Kris Akabussi yn 1992.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.