Ymchwiliad i ymateb staff ystafell reoli'r heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi dweud y byddan nhw'n ymchwilio i ymateb ystafell reoli Heddlu De Cymru wedi damwain achosodd farwolaeth dynes 31 oed.
Bu farw Jennifer Evans wedi'r ddamwain ar ffordd yr A4061 yn ymyl Mynydd y Rhigos ger Treherbert ym mis Mai.
Honwyd bod y fan wedi cael ei dwyn o ardal Merthyr Tudful yn oriau mân y bore, Mai 24.
Roedd Ms Evans o Ddowlais yn y fan Daihatsu Hijet wen pan ddisgynnodd 250 metr i lawr ceunant.
Bu hi farw o'i hanafiadau yn yr ysbyty'r diwrnod canlynol.
Mae Stephen Bosanko, 24 oed, wedi cael ei gyhuddo o ddwyn y fan ac o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
'Penderfyniadau'
Yn ôl y comisiwn, bydd eu hymchwiliad yn canolbwyntio ar "gyfarwyddiadau a phenderfyniadau staff yr ystafell reoli".
Dywedodd y comisiwn fod 'na adroddiadau tua 3:30am fod y fan wedi cael ei dwyn a bod 'na swyddogion yn yr ardal yn chwilio am y cerbyd pan gafodd ei ddarganfod tua 4am.
Mae Comisiynydd Cymru, Tom Davies, wedi dweud: "Hoffwn gydymdeimlo â theulu Jennifer. Mae ein hymchwilydd wedi cysylltu â'r teulu i esbonio pam ein bod yn cynnal ymchwiliad a byddwn yn cysylltu'n rheolaidd i ddweud beth sy'n digwydd.
"Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar weithredoedd a phenderfyniadau'r ystafell reoli.
"A bydd ein hymchwilwyr hefyd yn edrych ar hyn mewn perthynas â hyfforddiant lluoedd a'u polisïau. Byddwn yn cyhoeddi'n casgliadau maes o law."
Straeon perthnasol
- 29 Mai 2012