Galw am rwydwaith o ganolfannau Cymraeg ar gyfer dysgwyr
- Cyhoeddwyd

Dylid sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cymraeg ar draws Cymru lle byddai modd i ddysgwyr Cymraeg ac eraill gymdeithasu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, yn ôl adroddiad newydd gan Brifysgol Abertawe.
Mae'r adroddiad yn dilyn ymchwil ar y cyd gan Heini Gruffudd a Steve Morris ar ran Canolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru yn cael ei gyflwyno yn adeilad y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth 12.30pm.
Mae'r Ganolfan, sy'n rhan o Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, wedi cwblhau'r gwaith ymchwil a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru.
Fe gyfrannodd traean o'r holl ddysgwyr ar gyrsiau lefel uwch yng Nghymru at y gwaith rhwng 2009-2010.
Cymdeithasu
Prif neges yr adroddiad - 'Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy'n dysgu'r Gymraeg' - yw y dylid mynd ati i sefydlu Canolfannau Cymraeg ar draws ardaloedd cymharol ddi-Gymraeg Cymru.
Pwrpas canolfannau o'r fath fyddai rhoi cyfle i oedolion sy'n dysgu ac wedi dysgu'r Gymraeg gymdeithasu gyda siaradwyr Cymraeg eraill.
Gallai lleoedd o'r fath brofi'n ddeniadol i nifer cynyddol o blant a phobl ifanc sydd wedi derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ond yn methu cael cyfle i ddefnyddio'r iaith y tu allan i goridorau'r ysgol.
Y ganolfan ddiweddaraf o'r math yma i agor yw'r Saith Seren yn Wrecsam.
Roedd yn ganlyniad apêl am arian yn lleol gan bobl Wrecsam wedi ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r ardal y llynedd.
'Tair yn unig'
''Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gydweithio gyda'r Canolfannau Cymraeg i Oedolion, Mentrau Iaith a sefydliadau eraill er mwyn sefydlu Canolfannau Cymraeg ar draws Cymru dros y deng mlynedd nesaf," meddai Steve Morris o Ganolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru.
"Mae nifer ohonyn nhw yng Ngwlad y Basg wedi'u hariannu gan y Llywodraeth.
"Tair yn unig sydd yng Nghymru a phob un wedi'i sefydlu gan fentrau lleol.
"Edrychwn ymlaen yn fawr at weld gwelliant yn y ddarpariaeth ar gyfer siaradwyr newydd y Gymraeg yn eu cymunedau yn y dyfodol.''
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd21 Medi 2011