Bws Caerdydd: Penodi rheolwr newydd ar ôl cael dirwy
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni bysiau mwya' Cymru wedi penodi pennaeth dros dro wedi i'r rheolwr gyfarwyddwr ymddiswyddo yr wythnos diwethaf ar ôl adroddiad beirniadol am dactegau.
Ymddiswyddodd David Brown wedi i dribiwnlys benderfynu bod y cwmni wedi "anwybyddu'r ddeddf" wrth ymateb i gwmni oedd yn cystadlu â nhw.
Gorchymynnodd y tribiwnlys y dylai cwmniBws Caerdydd dalu £90,000 i gyfarwyddwyr cwmni 2Travel nad yw bellach yn bodoli.
Cyfarwyddwr cyllid a gweinyddu Bws Caerdydd, Cynthia Ogbonna, yw'r pennaeth newydd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol