Chwilio am ddyn a frathodd ferch 14 oed ar drên
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi cyhoeddi lluniau o gamera cylch cyfyng o ddyn y maen nhw am ei holi wedi ymosodiad ar ferch 14 oed ar drên.
Cafodd y ferch ei brathu ar ei hwyneb, ac fe gafodd gleisiau yn ogystal.
Digwyddodd yr ymosodiad am tua 4:40pm ar ddydd Sadwrn, Mehefin 2, wrth i'r trên gyrraedd gorsaf Aberdâr.
Dywedodd yr heddlu bod y ferch wedi mynd ar y trên ym Mhontypridd, ac yn ystod y daith fe aeth i ddadlau gyda dyn.
Wrth i'r ferch adael y trên yn Aberdâr, fe ymosodd y dyn arni gan achosi cleisiau i'w gwyneb a brathiad ar ei thalcen.
'Profiad brawychus'
Dywed yr heddlu eu bod yn awyddus i siarad gyda dyn oedd yn gwisgo crys-T Nike a chap fflat du.
Roedd ei wallt wedi ei dorri mewn modd 'Mohican' arbennig.
Maen nhw'n credu iddo fynd ar y trên yng Nghwmbach.
Dywedodd Cwnstabl Nigel Maggs: "Roedd hwn yn ddigwyddiad cas a adawodd y ferch gydag anafiadau ac mewn gofid. Roedd yn brofiad brawychus iddi hi.
"Mae ymddygiad fel hyn yn gwbl annerbyniol, ac ni fyddwn yn ei ddioddef ar y rhwydwaith drenau.
"Mae'n hanfodol i ni adnabod y person oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yma, ac rwy'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu."
Gofynnodd yr heddlu i bobl allai gynnig gwybodaeth fyddai'n cynorthwyo'r ymchwiliad i ffonio Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 405040, gan nodi'r cyfeirnod B4/WCA ar 9/7/2012, neu fe all pobl ffonio Taclo'r Tacle yn ddi-enw ar 0800 555111.