Taclo tân mewn cartref henoed ym Mae Colwyn

  • Cyhoeddwyd

Aed ag un ddynes oedrannus i'r ysbyty yn dilyn tân mewn cartre'r henoed ym Mae Colwyn.

Cafodd diffoddwyr eu galw i'r adeilad ar Ffordd Ellesmere am 6.09am ddydd Mercher.

Llwyddodd criwiau o Fae Colwyn, Conwy ac Abergele reoli'r tân erbyn 8.10 am.

Fe gafodd dynes arall oedd yn aros yn y cartre driniaeth yn y fan a'r lle.

Bu difrod mwg i lawr cynta ac ail lawr yr adeilad.

Mae'r Gwasanaeth Tân yn ymchwilio i'r digwyddiad.