Cyhoeddi trefn gemau'r Pro 12
- Cyhoeddwyd

Bydd y Gweilch yn dechrau amddiffyn eu coron fel pencampwyr y RaboDirect Pro 12 gyda thaith i'r Eidal i wynebu Treviso.
Wrth i drefn gemau tymor 2012/13 gael ei chyhoeddi ddydd Mercher, mae'r penwythnos cyntaf yn argoeli'n un diddorol i ranbarthau Cymru.
Tasg gyntaf Phil Davies fel cyfarwyddwr rygbi'r Gleision yw taith i Iwerddon i herio Connacht.
Bydd y Dreigiau yn croesawu'r tîm newydd i'r gynghrair eleni. Wedi tranc Aironi, Zebre o'r Eidal fydd yr ymwelwyr i Rodney Parade.
Ond y dasg anoddaf mae'n debyg yw un y Scarlets. Gyda Simon Easterby wrth y llyw, yr ymwelwyr i Barc y Scarlets ar y penwythnos cyntaf yw pencampwyr Ewrop, Leinster.
Bydd gêm ola'r tymor yn her i'r Gweilch yn ogystal.
Ar benwythnos cyntaf mis Mai 2013, fe fydd tîm Steve Tandy ar daith i wynebu Leinster yn y gêm olaf yn y gobaith o ennill eu lle yn y rowndiau terfynol fydd yn dechrau wythnos yn ddiweddarach.