Masnachu: Creu 132 o swyddi yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni masnachu wedi cyhoeddi cynlluniau i greu 132 o swyddi wrth sefydlu'r llawr masnachu mwya' tu allan i Lundain.
Bydd y swyddi yn Abertawe ac mae OSTC Cymru wedi cael cymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Mae hwn yn gwmni sy'n masnachu nwy, olew ac olew crai Brent, coco a siwgr ynghyd â chynnyrch ar y cyfnewidfeydd tramor.
Recriwtio
Bydd yn recriwtio graddedigion o Ysgolion Llawr Masnachu Prifysgol Morgannwg a Chaerdydd yn bennaf ynghyd â myfyrwyr o Brifysgol Abertawe.
Mae'r buddsoddiad wedi prosiect arall gafodd ei ariannu gan Gronfa Twf Economaidd Cymru.
Bydd OSTC yn gallu creu 19 o swyddi wrth sefydlu tîm newydd fydd yn arbenigo mewn marchnadoedd masnachu ynni.
Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes: "Bydd y prosiect ehangu hwn yn helpu rhoi Cymru ar y map fel canolfan sy'n tyfu ar gyfer yr is-sector arbenigol hwn.
"Bydd hefyd yn creu nifer sylweddol o swyddi sy'n galw am sgiliau o lefel uwch fydd yn galluogi graddedigion i aros yng Nghymru a dilyn gyrfa yn y maes hwn ..."
Dywedodd Michael Shirley, Cyfarwyddwr Rheoli OSTC Cymru: "Mae OSTC yn falch o fod ar flaen y gad yn ein diwydiant ac yn gyflogwr y mae pobl yn dymuno gweithio iddo.
'Arweinydd'
"Mae hefyd yn arweinydd byd-eang mewn masnachu deilliannau ac mae ganddo 12 o swyddfeydd rhwng Prydain, Ewrop, Asia a Gogledd America.
"Mae'n arbenigo mewn gwneud y mwyaf o botensial pob masnachwr a chyfleoedd masnachu ..."
Bydd y broses recriwtio ar gyfer ehangu'r cwmni'n digwydd yn 2013 a rhwng hynny a 2017 byddan nhw'n penodi graddedigion ddwywaith y flwyddyn - ym mis Chwefror a mis Medi.
Straeon perthnasol
- 3 Ebrill 2012
- 8 Gorffennaf 2011