Cyrch gan swyddogion y tollau yng Ngwynedd a Môn
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion y tollau wedi mynd â 7,000 litr o gwrw a 565 litr o win o fusnes ym Mhorthmadog am nad oedd y cwmni'n gallu profi fod treth wedi ei thalu ar y nwyddau.
Yn ôl swyddogion, dylid fod wedi talu £10,000 o drethi.
Dywedodd llefarydd fod swyddogion wedi dod o hyd i naw cilo o dybaco a 40 sigâr tramor yn Llanllechid ger Bethesda.
Unwaith eto methwyd â phrofi bod treth wedi ei thalu.
Yn Nhywyn, Meirionnydd, aeth swyddogion ag 8,000 o sigarennau a 15 cilo o dybaco o garafán.
4,800 o sigarennau
Mewn cyrch arall ar Ynys Môn fe wnaeth swyddogion gymryd 4,800 o sigarennau o dŷ yn Y Gaerwen.
Dywedodd Keith Morgan, ymchwilydd troseddol gydag Adran Gyllid a Thollau ei Mawrhydi: "Mae pobl sy'n prynu sigarennau a thybaco sydd ddim fel arfer ar werth yn y Deyrnas Unedig yn delio'n uniongyrchol â throseddwyr.
"Mae rhoi arian i'r bobl hyn yn cael effaith ddrwg ar fusnesau gonest sy'n ceisio ennill bywoliaeth."
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r llinell gymorth ar 0800 59 5000.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2011
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2007
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2005