BBC Cymru Fyw

Heddlu'n ymchwilio i ladrad

Published
image captionHeddlu: 'Hwn yn ddigwyddiad difrifol'
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i rywun ddwyn eitemau oddi wrth fenyw 50 oed yn Y Bala.
Roedd yr ymosodiad ym Maes Parcio Stryd Plasey ychydig cyn hanner nos nos Fercher.
Cafodd anaf difrifol yn ei stumog ond mae wedi ei rhyddhau o'r ysbyty. Y gred yw ei bod hi wedi ei thrywanu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Keith Jones: "Mae hwn yn ddigwyddiad difrifol ac rydan ni'n ymchwilio'n drylwyr.
"Mi ddylai unrhywun welodd unrhywbeth amheus yn yr ardal rhwng 11.30pm nos Fercher a 00.30am y bore 'ma gysylltu efo ni.
"Mae trosedd fel hon yn brin iawn yn y gogledd."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio Heddlu'r Gogledd ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.